Romans 7:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can nad cymradwy genyf yr hyn wyf yn y wneuthur: can ys hyn y wyllyswn, hyny ny d wyf yn y wneuthur: eithyr ysy gas genyf, hyn y r ’wyf yn ei wneuthur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr hyn yr wyf yn ei weithredu, nis gwn ef, canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, yr wyf yn ei wneud; eithr yr hyn sydd gas genyf, hwnw yr wyf yn ei wneuthur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y peth a gyflawnaf, nid adwaen; canys nid a ewyllysiaf a wnaf, ond a gasâf, hynny a wnaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud, dw i'n cael fy hun yn gwneud beth dw i'n ei gasáu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni allaf ddeall fy ngweithredoedd, oherwydd yr wyf yn gwneud, nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio ond y peth yr wyf yn ei gasu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid wyf yn gwybod yr hyn yr wyf yn ei weithredu; canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gâs gennyf, hyn yr wyf yn ei wneuthur.