Romans 7:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys gwn, nad oes yno vi, ys ef yn vy‐cnawd i, ddim da yn trigiaw: o bleit yr wyllysio ysy gydrichiol genyf: eithyr nad wyf yn medry cwplau yr hyn ’sy dda.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys gwn nad oes yn trigo ynof, hyny yw yn fy nghnawd, ddim da; canys yr ewyllysio sydd bresennol gyda mi, ond gweithredu y da nid yw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gwn na chartrefa ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da. Canys ewyllysio sydd barod gennyf, ond cyflawni’r da, nid yw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau'r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod yn iawn pa mor ddrwg ydw i y tu mewn! Yr hunan ydy popeth! Dw i eisiau byw yn dda, ond dw i'n methu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd mi wn nad oes dim da yn cartrefu ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd. Y mae'r ewyllys i wneud daioni gennyf; y peth nad yw gennyf yw'r gweithredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys gwn nad oes ynof fi, hynny yw, yn fy nghnawd i, ddim da yn trigo: oblegyd yr ewyllysio sydd yn bresennol i mi, ond gweithredu y da, nid yw;