Romans 7:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cannad wyf yn gwneuthur y peth da, a ewyllyswn, anyd y drwc rhwn ny d wyllyswn, hyny ddwyf yn y wneuthur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys nid yr hyn yr wyf yn ei ewyllysio, y da, yr wyf yn ei wneuthur, eithr yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, y drwg, hwnw yr wyf yn ei wneud;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd y peth da a ewyllysiaf ni wnaf, ond y peth drwg nad ewyllysiaf a wnaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn lle gwneud y pethau da dw i eisiau eu gwneud, dw i'n dal ati i wneud y pethau drwg dw i ddim eisiau eu gwneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn cyflawni, nid y daioni yr wyf yn ei ewyllysio ond yr union ddrygioni sy'n groes i'm hewyllys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio, ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei ymarfer.