Romans 7:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys y wraic ’rhon ’sy y dan lyvvodreth gwr, ’sy yn rhwym wrth y Ddeðyf i’r gwr, tra vo e byw: ani d a bydd marw y gwr, hi ryddhawyt y wrth ðeðyf y gwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys y wraig ag iddi ŵr, i’r gŵr, tra yn fyw, y rhwymwyd hi gan y Gyfraith; ond os bydd marw y gŵr, rhyddhawyd hi oddiwrth gyfraith y gŵr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhwym trwy ddeddf i’w gŵr yw’r wraig briod, ac ef yn fyw; ond os bydd marw’r gŵr, y mae’n gwbl rydd oddi wrth ddeddf y gŵr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i'r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er enghraifft, mae Cyfraith Duw yn dweud fod gwraig briod i aros yn ffyddlon i'w gŵr tra mae'r gŵr hwnnw'n dal yn fyw. Ond, os ydy'r gŵr yn marw, dydy'r rheol ddim yn cyfri ddim mwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er enghraifft, y mae gwraig briod wedi ei rhwymo gan y gyfraith wrth ei gu373?r tra bydd ef yn fyw. Ond os bydd y gu373?r farw, y mae hi wedi ei rhyddhau o'i rhwymau cyfreithiol wrtho.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y wraig briod sydd wedi ei rhwymo gan ddeddf i'r gŵr tra byddo efe byw: ond os bydd y gŵr farw, rhyddhâwyd hi oddiwrth ddeddf y gŵr.