Romans 7:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly a’s gwnaf, yr hynn ny d wyllysia vi, ny d my vi aei gwnaf, anyd, y pechat rhwn a drig ynof.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac os yr hyn nad wyf yn ei ewyllysio, hwnw yr wyf yn ei wneuthur, nid myfi mwyach sydd yn ei weithredu ef, eithr y pechod y sy’n trigo ynof.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os y peth nad ewyllysiaf a wnaf, nid myfi mwyach a’i cyflawna, ond pechod, yr hwn sy’n cartrefu ynof fi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os dw i'n gwneud beth dw i ddim eisiau ei wneud, dim fi sy'n rheoli bellach — y pechod y tu mewn i mi sydd wedi cymryd drosodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond y pechod sy'n cartrefu ynof fi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os wyf yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof.