Romans 7:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ydd wyf gan hyn yn cahel wrth y Ddeðyf, pan wyllyswn wneuthur da, vot y drwc yn gynnyrchiol genyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cenfyddaf, gan hyny, y gyfraith i mi sy’n ewyllysio gwneuthur yr hyn sy dda, mai i mi yr hyn sy ddrwg sydd bresennol;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Caf felly yn ddeddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur y peth sy dda, mai’r peth sy ddrwg sydd barod gennyf;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg yn bresennol gyda mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, er fy mod i eisiau gwneud beth sy'n iawn, mae'r drwg yno yn cynnig ei hun i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn cael y ddeddf hon ar waith: pan wyf yn ewyllysio gwneud daioni, drygioni sy'n ei gynnig ei hun imi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn wir yr wyf yn cael y Ddeddf hon: I mi pan yn ewyllysio gwneuthur y da, i mi, meddaf, y mae y drwg yn bresennol.