Romans 7:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
eithr gwelaf Ddeddyf arall yn vy aelodeu, yn gwrthladd Deddyf vy meddul, ac im caethiwo i Ddeddyf pechot, yr hon ’sy dd yn vy aelodae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond gwelaf gyfraith arall yn fy aelodau, yn rhyfela yn erbyn cyfraith fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i gyfraith pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond gwelaf ddeddf wahanol yn fy aelodau, yn milwrio yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo dan ddeddf pechod y sydd yn fy aelodau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae rhyw ‛gyfraith‛ arall ar waith yn fy mywyd i — mae'n brwydro yn erbyn y Gyfraith dw i'n cytuno â hi, ac yn fy ngwneud i'n garcharor i bechod. Mae wedi cymryd drosodd yn llwyr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr wyf yn canfod cyfraith arall yn fy nghyneddfau corfforol, yn brwydro yn erbyn y Gyfraith y mae fy neall yn ei chydnabod, ac yn fy ngwneud yn garcharor i'r gyfraith sydd yn fy nghyneddfau, sef cyfraith pechod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eithr yr wyf yn gweled deddf wahanol yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.