Romans 7:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ydd wyf yn diol vv ch y Dduw trwy Iesu Christ ein Arglwydd. Sef gan hyny ydd wy vinef yn vy meðwl yn gwasanaethu Deðyf Duw, anyd yn vy‐ cnawt Ddeddyf pechat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Diolch yr wyf i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Gan hyny, ynte, myfi fy hun â’m meddwl wyf yn gwasanaethu cyfraith Dduw; ond â’m cnawd, gyfraith pechod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Am hynny, ynteu, yr wyf fi fy hun, o ran y meddwl, yn gaeth i ddeddf Duw, ond o ran y cnawd, i ddeddf pechod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly gan hynny, yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â'r cnawd, cyfraith pechod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Duw, diolch iddo! — o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. Felly dyma sut mae hi arna i: Dw i'n awyddus i wneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ddweud, ond mae'r hunan pechadurus eisiau gwasanaethu'r ‛gyfraith‛ arall, sef pechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Duw, diolch iddo, trwy Iesu Grist ein Harglwydd! Dyma, felly, sut y mae hi arnaf: yr wyf fi, y gwir fi, 'm deall yn gwasanaethu Cyfraith Duw, ond 'm cnawd yn gwasanaethu cyfraith pechod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Diolch yr wyf i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Gan hynny, yn wir, yr wyf fi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu deddf Duw, ond â'r cnawd, ddeddf pechod.