Romans 7:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly a’s a’r gwr yn vyw y cymer hi hi wr arall, hi elwir yn ’odinabus: eithr a’s marw vydd y gwr, mae hi yn rhyð y wrth y Ddeðyf val na d yw hi yn ’odnebus, er cymeryd o hanei wr arall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, ynte, tra byw yw’r gŵr, godineb-wraig y gelwir hi os aiff yn eiddo gŵr arall; ond os marw fydd y gŵr, rhydd yw oddiwrth y gyfraith fel na bo yn odineb-wraig wedi myned yn eiddo gŵr arall.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, ynteu, a’r gŵr yn fyw, fe gaiff yr enw godinebwraig os â yn eiddo gŵr arall. Eithr os bydd marw’r gŵr, rhydd ydyw oddi wrth y ddeddf, fel nad godinebwraig mohoni, ei dyfod yn eiddo gŵr arall.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac felly, os a'r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae hyn yn golygu, os ydy gwraig yn gadael ei gŵr a mynd i fyw gyda dyn arall pan mae ei gŵr hi'n dal yn fyw, mae hi'n godinebu. Ond os ydy ei gŵr hi wedi marw, mae'r sefyllfa'n wahanol. Mae ganddi hi hawl i briodi dyn arall wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, os bydd iddi, yn ystod bywyd ei gu373?r, ddod yn eiddo i ddyn arall, godinebwraig fydd yr enw arni. Ond os bydd y gu373?r farw, y mae hi'n rhydd o'r gyfraith hon, ac ni bydd yn odinebwraig wrth ddod yn eiddo i ddyn arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hynny, yn wir, a'r gŵr yn fyw, hi a ddyg yr enw o odineb‐wraig, os ä yn eiddo gŵr arall; ond os bydd y gŵr farw, y mae hi yn rhydd oddiwrth y ddeddf, fel nad yw hi yn odineb‐wraig, er ei bod yn eiddo gŵr arall.