Romans 7:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly chvvithe vy‐broder, ydych wedy meirw ir Ddeðyf gan gorph Christ, val y byðech i vn arall, sef i hwn a gyfodwyt o veirw, val y dygem ffrwyth y Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, fy mrodyr, chwithau hefyd a’ch gwnaethpwyd yn feirw i’r Gyfraith trwy gorph Crist, fel yr eloch yn eiddo un arall, yr Hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygom ffrwyth i Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, fy mrodyr, gwnaed chwithau yn farw i’r ddeddf trwy gorff Crist, fel y delech yn eiddo arall, sef yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i'r ddeddf trwy gorff Crist; fel y byddech eiddo un arall, sef eiddo'r hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma beth dw i'n ei ddweud, ffrindiau — trwy farwolaeth y Meseia ar y groes dych chi hefyd wedi ‛marw‛ yn eich perthynas â'r Gyfraith. Bellach dych chi'n perthyn i un arall, sef i'r un gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw. Felly dylai pobl weld ffrwyth hynny yn eich bywydau chi — ffrwyth fydd yn anrhydeddu Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac felly, fy nghyfeillion, yr ydych chwi hefyd, trwy gorff Crist, wedi eich gwneud yn farw mewn perthynas 'r Gyfraith, er mwyn i chwi ddod yn eiddo i rywun arall, sef yr un a gyfodwyd oddi wrth y meirw, er mwyn i ni ddwyn ffrwyth i Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hynny, fy mrodyr, chwithau hefyd a wnaed yn feirw i'r Ddeddf trwy gorph Crist, fel y byddoch eiddo un arall, yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.