Romans 7:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pan oeddem yn y cnawd, gwniae pechotae, yr ei n oedd drwy nerth y Ddeddyf, vyddent‐mewn‐grym yn ein aelodae, y ddwyn ffrwyth i angeu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pan oeddym yn y cnawd, y gwyniau pechadurus, y rhai sydd trwy’r Gyfraith, a weithient yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pan oeddem yn y cnawd, nwydau pechodau, y rhai sydd trwy’r ddeddf, a ymegnïai yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy'r ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan roedd yr hen natur ddrwg yn ein rheoli ni, roedd Cyfraith Duw yn dangos y nwydau pechadurus hynny oedd ar waith yn ein bywydau ni, a'r canlyniad oedd marwolaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddem yn byw ym myd y cnawd, yr oedd y nwydau pechadurus, a ysgogir gan y Gyfraith, ar waith yn ein cyneddfau corfforol, yn peri i ni ddwyn ffrwyth i farwolaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pan oeddym yn y cnawd, nwydau pechodau, y rhai sydd trwy y Ddeddf, a weithient yn rymmus yn ein haelodau i ddwyn ffrwyth i farwolaeth;