Romans 7:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr awrhon in rhyddhawyt ywrth y Ddeddyf, gwedy ein meirw ir peth in attalit, val y gwasanaethem yn newyðeb Yspryt, ac ny d yn hendeb y llythyr en.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond yn awr y’n rhyddhawyd oddiwrth y Gyfraith, wedi ein meirw i’r peth y’n hattelid ynddo, fel mai gwasanaethu yr ydym yn newydd-deb buchedd, ac nid yn hendra y llythyren.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond yn awr yr ydym yn gwbl rydd oddi wrth y ddeddf, wedi marw ohonom i’r peth yr oeddem yn ei afael, fel yr ydym yn gaethion ym myd newydd ysbryd, ac nid yn hen fyd llythyren.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf, wedi ein meirw i'r peth y'n hatelid; fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb ysbryd, ac nid yn hender y llythyren.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bellach, dŷn ni wedi ein gollwng yn rhydd o afael y Gyfraith. Dŷn ni wedi marw i beth oedd yn ein caethiwo ni o'r blaen. Dŷn ni'n rhydd i wasanaethu Duw yn ffordd newydd yr Ysbryd, ddim yn yr hen ffordd o geisio cadw at lythyren y ddeddf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr, gan ein bod wedi marw i'r Gyfraith oedd yn ein dal yn gaeth, fe'n rhyddhawyd o'i rhwymau, i wasanaethu ein Meistr yn ffordd newydd yr Ysbryd, ac nid yn hen ffordd cyfraith ysgrifenedig.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond yn awr, rhyddhâwyd ni oddiwrth y Ddeddf, wedi marw o honom i'r peth yn yr hwn y'n delid, fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb yspryd, ac nid yn hendra y llythyren.