Romans 8:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s Yspryt hwn a gyfodawdd Iesu o veirw, ’sy yn trigo ynoch, ys ef hwn a g yfo dawdd Christ o veirw, a’ vywoca hefyt eich cyrph marwol chvvi, can vot y Yspryt ef yn trigo ynoch. Yr Epistol yr viij. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os Yspryd yr Hwn a gyfododd Iesu o feirw sy’n trigo ynoch, yr Hwn a gyfododd Crist Iesu o feirw a fywha hefyd eich cyrph marwol trwy Ei Yspryd Ef, yr Hwn sy’n trigo ynoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os ysbryd yr hwn a gyfododd yr Iesu oddi wrth y meirw sy’n cartrefu ynoch, yr hwn a gyfododd Grist Iesu oddi wrth y meirw a fywha hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd a gartrefa ynoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os ydy Ysbryd yr Un gododd Iesu yn ôl yn fyw wedi dod i fyw ynoch chi, bydd e'n rhoi bywyd newydd i'ch cyrff marwol chi hefyd. Dyna mae'r Ysbryd Glân sydd wedi dod i fyw ynoch chi yn ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu oddi wrth y meirw yn cartrefu ynoch, bydd yr hwn a gyfododd Grist oddi wrth y meirw yn rhoi bywyd newydd hefyd i'ch cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd, sy'n ymgartrefu ynoch chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac os Yspryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Crist o feirw a fywhâ hefyd eich cyrph marwol chwi o herwydd ei Yspryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.