Romans 8:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
can ys a’s byw vyddwch erwydd y cnawd, meirw vyddwch: eithyr a’s marwhewch ’weithredoeð y corph trwy ’r Yspryt, byw vyddwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yn ol y cnawd y bo i ni fyw, canys os yn ol y cnawd yr ydych yn byw, ar fedr marw yr ydych; ond os trwy’r Yspryd y marwhewch weithredoedd y corph, byw fyddwch,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os ydych yn byw yn ôl y cnawd, marw fydd eich rhan, eithr os ydych trwy’r Ysbryd yn marwhau gweithredoedd y corff, byw fyddwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy'r Ysbryd, byw fyddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gwneud hynny yn siŵr o arwain i farwolaeth. Ond, gyda nerth yr Ysbryd Glân, os gwnawn ni wrthod gwneud beth mae'r hunan eisiau, byddwn yn cael bywyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, os ar wastad y cnawd yr ydych yn byw, yr ydych yn sicr o farw; ond os ydych, trwy'r Ysbryd, yn rhoi arferion drwg y corff i farwolaeth, byw fyddwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys os byw yr ydych yn ol y cnawd, yr ydych ar fedr marw; eithr os trwy yr Yspryd y marwhêwch weithredoedd y corph, byw fyddwch.