Romans 8:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can na dd erbynesoch Yspryt caethiwet er ofn drachefyn; eithyr d erbyniesoch Yspryt mabwys iad, trwy ’r hwn y llefwn Abba, Dat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn er ofn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad, trwy’r Hwn y llefwn, Abba Dad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed i ofni eilwaith, eithr derbyniasoch ysbryd mabwysiad, y llefwn trwyddo Abba Dad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dydy'r Ysbryd Glân dŷn ni wedi ei dderbyn ddim yn ein gwneud yn gaethweision ofnus unwaith eto! Mae'n ein mabwysiadu ni yn blant i Dduw, a gallwn weiddi arno'n llawen, “ Abba! Dad!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto'n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, "Abba! Dad!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn i beri ofn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad, trwy yr hwn y llefwn, Abba, Dâd!