Romans 8:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit gadu yr wyf na d yw gofidiae yr amser yr awrhon, yn deilwng o’r gogoniant, a ddangosir i ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys cyfrif yr wyf nad o ddim gwerth yw dioddefiadau yr amser presennol mewn cymhariaeth â’r gogoniant ar fedr ei ddatguddio tuag attom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid yr wyf yn cyfrif mai dibwys yw dioddefiadau’r pryd hwn wrth y gogoniant sydd ar fedr ei ddatguddio i ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n reit siŵr bod beth dŷn ni'n ei ddioddef ar hyn o bryd yn ddim o'i gymharu â'r ysblander gwych fyddwn ni'n ei brofi maes o law.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi'n cyfrif nad yw dioddef-iadau'r presennol i'w cymharu 'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio i ni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd yr ydwyf yn cyfrif nad yw dyoddefiadau yr adeg bresennol hon yn haeddu eu cyferbynu â'r gogoniant sydd ar fedr cael ei ddadguddio mewn perthynas i ni.