Romans 8:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Deddyf Yspryt y bywyt rhvvn yvv yn‐Christ Iesu, a’m rhyðhaodd i rac deddyf pechot ac hon angeu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys cyfraith Yspryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd oddiwrth gyfraith pechod a marwolaeth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys rhyddhaodd deddf ysbryd y bywyd dydi, yng Nghrist Iesu, oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a'm rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae'r Ysbryd Glân, sy'n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i'n rhydd o afael y pechod sy'n arwain i farwolaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yng Nghrist Iesu y mae cyfraith yr Ysbryd, sy'n rhoi bywyd, wedi dy ryddhau o afael cyfraith pechod a marwolaeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Deddf Yspryd y bywyd yng Nghrist Iesu a'th rhyddhâodd di oddiwrth Ddeddf pechod a marwolaeth.