Romans 8:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can vot y creatur yn ðarestyngedic i wagedd, ny d oei vodd ehun, any d o bleit yr hwn, a ei darestyngawð y dan ’obeith,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys i oferedd y bu i’r greedigaeth ei darostwng, nid o’i bodd, eithr oblegid yr Hwn a’i darostyngodd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o’i dewis, eithr o’i blegid ef a’i darostyngodd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o'i fodd, eithr oblegid yr hwn a'i darostyngodd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y greadigaeth wedi cael ei chondemnio i wagedd (Dim ei dewis hi oedd hynny — cafodd ei orfodi arni).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o'i dewis ei hun, ond trwy'r hwn a'i darostyngodd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y greadigaeth a ddarostyngwyd i oferedd, nid o'i bodd, eithr oblegyd yr hwn a'i darostyngodd, mewn gobaith