Romans 8:23 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny d yn vnic y creadur, and nineu hefyt y sawl a gawsam vlaenffrwyth yr Yspryt, sef yð ym ni yn vcheneidio ynom eyn hunain, yn dysgwyl y mab‐wys iad, nid amgen prynedigaeth ein corph.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ynghyd mewn gwewyr hyd yn awr. Ac nid hyny yn unig, eithr hefyd a chenym flaen-ffrwyth yr Yspryd, nyni ein hunain hefyd ynom ein hunain a ocheneidiwn, gan ddisgwyl am y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph; canys trwy obaith y’n hachubwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac nid hynny’n unig, ond ninnau, a chennym flaenffrwyth yr Ysbryd, ie, ninnau hefyd a ocheneidiwn ynom ein hunain, gan ddisgwyl am fabwysiad, prynedigaeth ein corff.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid yn unig y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Ysbryd: yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corff.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac nid dim ond y greadigaeth sy'n griddfan, ond ni hefyd sy'n Gristnogion, ac wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel rhagflas o beth sydd i ddod. Dŷn ni hefyd yn griddfan o'n mewn wrth ddisgwyl i'r diwrnod ddod pan fydd Duw yn ein mabwysiadu ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau'n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nid hynny yn unig, eithr ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaenffrwyth yr Yspryd, — yr ydym ninnau hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan daer‐ddysgwyl am y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph.