Romans 8:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a’s gobeithiwn am yr hyn ny welwn, yð ym drwy ammynedd yn d ysgwyl am dano.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os yr hyn na welwn, yr ydym yn ei obeithio, trwy amynedd yr ym yn disgwyl am dano.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os am y peth na welwn y gobeithiwn, yr ydym yn disgwyl mewn amynedd amdano.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os ydym ni yn gobeithio'r hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwyl amdano.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wrth edrych ymlaen at beth sydd ddim yma eto, rhaid disgwyl yn amyneddgar amdano.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os ydym yn gobeithio am yr hyn nid ydym yn ei weled, yr ydym trwy ddewr‐ymaros yn taer‐ddysgwyl am dano.