Romans 8:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn gyffelyp y mae’r Yspryt yn canhorthwyaw eyn gwendit ni: can na wydddam pa beth a weddiwn mal d y l y em: eithyr yr Yspryt y h un ’sy yn erchi drosom ac vcheneidieu anr t aethawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r un ffunud y mae’r Yspryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid, canys pa beth a weddïem fel y dylem, nis gwyddom; eithr yr Yspryd Ei hun sy’n erfyn trosom ag ocheneidiau anrhaethadwy;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr un ffunud hefyd, rhydd yr Ysbryd gymorth i’n gwendid ni, canys pa beth i weddïo fel y dylid, ni wyddom, eithr erfyn yr Ysbryd ei hun drosom ag ocheneidiau anhraethadwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r un ffunud y mae'r Ysbryd hefyd yn cynorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddïom, megis y dylem: eithr y mae'r Ysbryd ei hun yn erfyn trosom ni ag ocheneidiau anhraethadwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae'r Ysbryd yn ein helpu ni hefyd yn ein cyflwr gwan presennol. Wyddon ni ddim yn iawn beth i'w weddïo, ond mae'r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni. Mae yntau'n griddfan — dydy geiriau ddim yn ddigon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr un modd, y mae'r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem weddo, ond y mae'r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr un modd hefyd y mae yr Yspryd yn cynnorthwyo ein gwendid ni: canys ni wyddom ni am beth y gweddiom megys y dylem: eithr y mae yr Yspryd ei hun yn erfyn âg ocheneidiau annhraethadwy.