Romans 8:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any d yr hwn a chwilia ’r calonae, a wyr beth yw meddwl yr Yspryt: can ys mae ef erwydd evvyllys Duw yn erchi tros y Sainct æ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r Hwn sy’n chwilio’r calonnau a ŵyr pa beth yw syniad yr Yspryd, gan mai yn ol Duw yr erfyn Efe dros y seintiau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gŵyr y Chwiliwr calonnau ar beth y mae bryd yr Ysbryd, gan mai yn ôl ewyllys Duw yr erfyn ar ran y saint.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn sydd yn chwilio'r calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Ysbryd; canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pawb, ac mae'n gwybod beth ydy bwriad yr Ysbryd. Mae'r Ysbryd yn gofyn i Dduw am y pethau mae Duw yn awyddus i'w rhoi i'w blant.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac y mae Duw, sy'n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae tros y saint yn l ewyllys Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn sydd yn chwilio y calonnau a ŵyr beth yw meddwl yr Yspryd, canys y mae efe yn ol ewyllys Duw yn erfyn dros y saint.