Romans 8:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwyddom vot pop peth yn cydweithio ir hyn goreu, ir sawl a garant D d uw, sef ir ei a ’alwyt erwyð y pwrpos ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwyddom mai i’r rhai sy’n caru Duw y mae pob peth yn cydweithio er daioni, y rhai sydd wedi eu galw yn ol Ei arfaeth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwyddom ei fod ef yn cydweithio er daioni ym mhob peth â’r sawl a gâr Dduw, y rhai sydd alwedigion yn ôl arfaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw; sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n gwybod fod Duw'n trefnu popeth er lles y rhai sy'n ei garu — sef y rhai mae wedi eu galw i gyflawni ei fwriadau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn l ei fwriad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ni a wyddom fod pob peth yn cyd‐weithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw, sef i'r rhai sydd wedi eu galw yn ol ei arfaeth ef.