Romans 8:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr ei y ragwybu ef, yr vnrei hefyt a rac luniawdd ef y vot yn vnffurf a delw y Vap ef, val y byddei yn gyn t enid ym‐plith broder lawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys y rhai a rag-adnabu Efe, a rag-ordeiniodd Efe hefyd i fod yn un ffurf a delw Ei Fab, fel y byddai Efe yn gyntafanedig ym mhlith llawer o frodyr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid y rhai a ragadnabu a ragbenododd ef hefyd i’w cydffurfio â delw ei Fab, fel y byddai ef yn gyntafanedig ymhlith brodyr lawer;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn un ffurf â delw ei Fab ef; fel y byddai efe yn gyntaf‐anedig ymhlith brodyr lawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn gwybod pwy fyddai'n bobl iddo, ac roedd wedi eu dewis ymlaen llaw i fod yn debyg i'w Fab. (Y Mab, sef y Meseia Iesu, ydy'r plentyn hynaf, ac mae ganddo lawer iawn o frodyr a chwiorydd).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd 'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd y rhai a rag‐wybu a rag‐ordeiniodd efe hefyd i'w cyd‐ffurfio â delw ei Fab ef, fel y byddai efe y cyntaf‐anedig ym mhlith brodyr lawer: