Romans 8:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys (hyn y ydoedd yn analluawc ir Ddeddyf, pan ytoedd hi yn egwan, o bleit y cnawt) Duw gan dd anvon ei Vap ehun yn‐cyffelypiaeth cnawt pechaturus, ac am bechot y coll varnawdd ef bechot, yn y cnawt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys yr hyn oedd ammhosibl i’r Gyfraith, gan ei bod yn wan trwy’r cnawd, Duw gan ddanfon Ei Fab Ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys, a’r ddeddf yn ddiallu yn yr hyn yr oedd yn wan trwy’r cnawd, trwy ddanfon ei Fab ei hun yn nhebygrwydd cnawd pechadurus, ac oherwydd pechod, condemniodd Duw bechod yn y cnawd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr hyn ni allai'r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd y Gyfraith Iddewig ddim yn gallu gwneud hynny, am fod y natur ddynol mor wan. Ond dyma Duw yn anfon ei Fab ei hun i fod yn berson dynol yr un fath â ni bechaduriaid, er mwyn iddo orchfygu'r pechod oedd ar waith yn y natur ddynol trwy roi ei fywyd yn aberth dros bechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr hyn oedd y tu hwnt i allu'r Gyfraith, yn ei gwendid dan gyfyngiadau'r cnawd, y mae Duw wedi ei gyflawni. Wrth anfon ei Fab ei hun, mewn ffurf debyg i'n cnawd pechadurus ni, i ddelio phechod, y mae wedi collfarnu pechod yn y cnawd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y peth ammhosibl i'r Ddeddf wneyd, yn yr hyn yr oedd yn wan trwy y cnawd, Duw, wedi danfon ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod, a gondemniodd bechod yn y cnawd,