Romans 8:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn ny d arbedawdd ei briawt Vap, any d y roðy ef drosom ni oll y amgeu, py wedd y gyd ac ef na ryð y ni bop peth hefyt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai, Os Duw sydd trosom, pwy sydd yn ein herbyn? Ië, yr Hwn nad arbedodd Ei Fab Ei hun, eithr trosom ni oll y traddododd Ef, pa wedd hefyd, ynghydag Ef, na ddyry bob peth i ni?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y Duw nid arbedodd ei briod Fab ond a’i traddododd ef drosom ni oll, pa fodd gydag ef hefyd na rad ddyry ef bob peth i ni?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a'i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth Duw ddim hyd yn oed arbed ei Fab ei hun! Rhoddodd e yn aberth i farw yn ein lle ni i gyd. Felly oes yna unrhyw beth dydy e ddim yn fodlon ei roi i ni?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio rhoi pob peth i ni gydag ef?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn nid arbedodd ei briod fab, ond a'i traddododd drosom ni oll, pa wedd gydag ef hefyd na rad‐rodda efe i ni bob peth?