Romans 8:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
pwy a ddamna? Christ yvv, yr hwn a vu varw, ie yn hytrach, yr vn a gyfodwyt drachefn, yr hwn hefyt ’sy ar dde h eulaw Duw, ysy hefyt yn yn erchy drosom.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pwy yw’r hwn sy’n condemnio? Crist Iesu, yr Hwn a fu farw, ïe, yn hytrach yr Hwn a gyfodwyd o feirw, yr Hwn sydd ar ddeheulaw Duw, yr Hwn sydd hefyd yn erfyn trosom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
pwy sy’n condemnio? Crist Iesu yw’r hwn a fu farw, neu’n hytrach a gyfodwyd, y sydd ar ddeheulaw Duw, y sydd hefyd yn erfyn drosom.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy yw'r hwn sydd yn damnio? Crist yw'r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly pwy sy'n mynd i'n condemnio ni? Wnaiff y Meseia Iesu ddim! Fe ydy'r un gafodd ei ladd a'i godi yn ôl yn fyw! A bellach mae'n eistedd yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw, yn pledio ar ein rhan ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw'r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pwy sydd yn condemnio? Ai Crist Iesu a fu farw, ïe yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd o feirw, yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni?