Romans 8:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis mae yn yscrivenedic, Er dy vwyn di in lleddir ni trwy’r dydd: in cymerir ni mal deueit yw lladdfa.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai enbydrwydd? Ai cleddyf? Fel yr ysgrifenwyd, “O’th achos Di y’n lleddir ar hyd y dydd, Y’n cyfrifir fel defaid y lladdfa.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fel yr ysgrifennwyd: Er dy fwyn di lleddir ni trwy gydol y dydd. Cyfrifwyd ni fel defaid lladdfa.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i'r lladdfa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “O'th achos di dŷn ni'n wynebu marwolaeth drwy'r amser; Dŷn ni fel defaid ar eu ffordd i'r lladd-dy.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae'n ysgrifenedig: "Er dy fwyn di fe'n rhoddir i farwolaeth drwy'r dydd, fe'n cyfrifir fel defaid i'w lladd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Megys y mae yn ysgrifenedig: Er dy fwyn di y lleddir ni ar hyd y dydd, Cyfrifwyd ni fel defaid i'r lladdfa.