Romans 8:38 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys mae yn ðogel genyf, na d oes nac ange, na bywyt, nac Angelion, na na phennaetheu, na meddianneu, na chydrycholion, na phetheu y ddyvot,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys perswadiwyd fi na fydd na marwolaeth, na bywyd, nac angel, na thywysogaethau, na phethau presennol,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys sicr ydwyf na bydd marwolaeth na bywyd, nac angylion na llywodraethau, na phethau sydd na phethau a ddaw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae'n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n hollol sicr fod dim byd yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth ei gariad e. Dydy marwolaeth ddim yn gallu, na'r un profiad gawn ni mewn bywyd chwaith. Dydy angylion ddim yn gallu, na phwerau ysbrydol drwg. Dim byd yn y presennol nac yn y dyfodol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr wyf yn sicr na all nac angau, nac einioes, nac angelion, na thywysogaethau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, na nerthoedd,