Romans 8:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
nac uch el der, na dyfnder, nac vn creatur arall a aill ein yscar ni ywrth cariat Duw, ysyð yn‐Christ eun Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
na phethau i ddyfod, na galluoedd, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, yn abl i’n gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
na phŵerau nac uchder na dyfnder, nac unrhyw greadigaeth arall, yn abl i’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, y sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dim byd ym mhellteroedd eitha'r gofod nac yn nyfnderoedd y ddaear! Na, does dim yn y bydysawd yma greodd Duw yn gallu'n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yn ein Harglwydd ni, y Meseia Iesu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.