Romans 8:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y n y chyflanwit cyfiawnder y Ddeddyf ynom, yr ei ny rodiwn erwydd y cnawd: amyn erwydd yr Yspryt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gondemniodd bechod yn y cnawd, fel y byddai i ddeddf y Gyfraith ei chyflawni ynom ni, y rhai, nid yn ol y cnawd yr ym yn rhodio, ond yn ol yr Yspryd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y cyflawnid ordeiniad y ddeddf ynom ni, sy’n rhodio nid yn ôl y cnawd, ond yn ôl yr Ysbryd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth hyn er mwyn i ni wneud beth mae Cyfraith Duw yn ei ofyn. Dŷn ni bellach yn byw fel mae'r Ysbryd Glân eisiau, dim fel mae ein natur bechadurus eisiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth hyn er mwyn i ofynion cyfiawn y Gyfraith gael eu cyflawni ynom ni, sy'n byw, nid ar wastad y cnawd, ond ar wastad yr Ysbryd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y cyflawnid rheol gyfiawn y Ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio nid yn ol y cnawd, ond yn ol yr Yspryd.