Romans 8:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
achos synnwyr y cnawt ’sy elyniaeth yn erbyn Duw: can nad yw ddarostyngedic i Ddeddyf Duw: ac ny’s dychon vot chvvaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys syniad y cnawd, gelyniaeth yn erbyn Duw yw, canys i gyfraith Dduw nid yw’n ymddarostwng, canys ni all er dim;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid rhoi bryd ar y cnawd sydd elyniaeth tuag at Dduw, canys nid ymostwng i ddeddf Duw, ac yn wir ni all.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r natur bechadurus yn ymladd yn erbyn Duw. Does ganddi ddim eisiau gwneud beth mae Cyfraith Duw'n ei ofyn — yn wir, dydy hi ddim yn gallu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae bod 'n bryd ar y cnawd yn elyniaeth tuag at Dduw; nid yw hynny, ac ni all fod, yn ddarostyngiad i Gyfraith Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
oblegyd syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw, canys nid yw yn ymostwng i Ddeddf Duw, oblegyd yn wir nis gall.