Romans 8:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Weithian chwy chvvi ny d yd ych yn y cnawd, any d yn yr Yspryt: can vot Yspryt Duw yn trigo ynoch: ac a’s oes neb eb Yspryt Christ ganto ny d yw hwn vv yn yddo ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond chwychwi nid ydych yn y cnawd eithr yn yr Yspryd, os yw Yspryd Duw yn wir yn trigo ynoch. Ond os yw neb heb Yspryd Crist ganddo, hwnw nid yw yn eiddo Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond chwi, nid yn y cnawd yr ydych, ond yn yr ysbryd, os cartrefa Ysbryd Duw ynoch. Ac os oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dim yr hunan sy'n eich rheoli chi. Mae Ysbryd Duw wedi dod i fyw ynoch chi, felly yr Ysbryd sy'n eich rheoli chi. Os ydy Ysbryd y Meseia ddim wedi cael gafael ynoch chi, dych chi ddim yn bobl y Meseia o gwbwl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid ym myd y cnawd yr ydych chwi, ond yn yr Ysbryd, gan fod Ysbryd Duw yn cartrefu ynoch chwi. Pwy bynnag sydd heb Ysbryd Crist, nid eiddo Crist ydyw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Yspryd, os yw Yspryd Duw yn wir yn trigo ynoch. Ond os oes neb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.