Romans 9:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr Scrypt h ur ’lan a ddywait, wrth Pharao, I hyn yma yth cyffroeis i vyny dd, val y dangoswn vy‐meddiant yno ti, ac val y datcenit vy Enw trwy ’r oll ðaiar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys dywaid yr Ysgrythyr wrth Pharaoh, “Er hyn ei hun y cedwais di i fynu, fel y dangoswn Fy ngallu ynot, ac fel y datgenid Fy enw yn yr holl ddaear.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dywed yr ysgrythur wrth Pharao: I’r union beth hwn y cyfodais di, fel yr arddangoswn ynot fy ngallu, a chyhoeddi fy enw trwy’r holl ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae'r ysgrythur yn dywedyd wrth Pharo, I hyn yma y'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datgenid fy enw trwy'r holl ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn ôl yr ysgrifau sanctaidd dwedodd Duw wrth y Pharo: “Dyma pam wnes i dy godi di — er mwyn dangos trwot ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, "Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys dywed yr ysgrythyr wrth Pharaoh, I hyn yma y'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot, ac fel y dadgenid fy enw yn yr holl ddaear.