Romans 9:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny wrth yr hwn yr wyllysia, y trugarha ef, a’r hwn a wyllysia, ef ei caleda.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, ynte, wrth yr hwn yr ewyllysia y trugarha Efe, ac yr hwn yr ewyllysia y mae Efe yn ei galedu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny wrth y neb a fynno y trugarha, a’r neb a fynno a galeda.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly mae Duw yn dangos trugaredd at bwy bynnag mae'n ei ddewis, ac mae hefyd yn gwneud pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ystyfnig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelir, felly, fod Duw yn trugarhau wrth unrhyw un a fyn, a'i fod yn gwneud unrhyw un a fyn yn wargaled.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly gan hynny wrth yr hwn yr ewyllysia y trugarhâ efe, a'r hwn a ewyllysia a galeda.