Romans 9:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedy gan hyny wrthyf, Paam ymae ef eto yn cwyno? can ys pwy a wrthladdawdd y wyllys ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedi wrthyf, gan hyny, Paham y mae Efe etto yn beio?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedi wrthyf, felly, “Paham y beia mwy? Oherwydd pwy a saif yn erbyn ei bwrpas ef?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond os felly,” meddai un ohonoch chi, “pa hawl sydd gan Dduw i weld bai, gan fod neb yn gallu mynd yn groes i'w ewyllys?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe ddywedi wrthyf, "Os felly, pam y mae Duw yn dal i feio pobl? Pwy a all wrthsefyll ei ewyllys?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tydi a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe etto yn beio? Canys pwy a saif yn erbyn ei gynghor ef?