Romans 9:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr a ddyn, pwy wy ti rhwn ymddadleuy yn erbyn Duw? A ddyweit y peth ffurfedic wrth hwn aei ffurfiawdd, Paam im gwnaethost val hyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys yn erbyn ei Ewyllys Ef pwy sy’n sefyll? O ddyn, ynte, tydi, pwy wyt, yr hwn wyt yn atteb yn erbyn Duw? A ddywaid y peth a ffurfiwyd wrth yr hwn a’i ffurfiodd, Paham y’m gwnaethost fi fel hyn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn hytrach, ddyn, pwy wyt ti sy’n rhoi ateb yn ôl i Dduw? A ddywed y peth a luniwyd wrth ei luniwr, “Paham y gwnaethost fi fel hyn?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pwy wyt ti i ddadlau yn erbyn Duw? Dim ond person dynol wyt ti! “Oes gan y peth sydd wedi ei siapio hawl i ddweud wrth yr un wnaeth ei greu, ‘Pam rwyt ti wedi fy ngwneud i fel hyn?’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ie, ond pwy wyt ti, feidrolyn, i ateb Duw yn l? A yw hi'n debyg y dywed yr hyn a luniwyd wrth yr un a'i lluniodd, "Pam y lluniaist fi fel hyn?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na, yn hytrach, O ddyn! pwy wyt ti yr hwn wyt yn atteb yn erbyn Duw? A ddywed y peth a ffurfiwyd wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn?