Romans 9:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth a’s ewyllysei Dduw, y ddangos ei ðig ofeint, ac y beri adnabot ei veðiāt, ðioðef drwy hir ymaros l’estri ’r dig ofeint wedy y harlwy i gifergol’?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os Duw, yn ewyllysio dangos Ei ddigofaint, a pheri adnabod Ei allu, a oddefodd, â llawer o hir-ymaros, lestri digofaint wedi eu cymhwyso i ddistrywiad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os Duw, yn ewyllysio arddangos ei ddigofaint ac amlygu ei allu, a oddefodd mewn hirymaros mawr lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i ddinistr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A'r un fath, mae gan Dduw berffaith hawl i ddangos ei ddigofaint a'i nerth! Mae wedi bod mor amyneddgar gyda'r rhai sy'n haeddu dim byd ond cosb, ac sy'n dda i ddim ond i gael eu dinistrio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond beth os yw Duw, yn ei awydd i ddangos ei ddigofaint ac i amlygu ei nerth, wedi dioddef hir amynedd y llestri hynny sy'n wrthrychau digofaint ac yn barod i'w dinistrio?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Beth os Duw, er yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a gwneyd ei allu yn adnabyddus, a oddefodd gyda llawer o hir‐ymaros lestri digofaint wedi eu cymhwyso i golledigaeth: