Romans 9:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac er mwyn yðo beri‐gwybot golud ei ’ogoniant ar lestri trugaredd, yr ei a arlwyodd ef i ’ogoniant?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac fel y parai adnabod golud Ei ogoniant ar lestri trugaredd y rhai a rag-barottodd Efe i ogoniant,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
oni bu hefyd fel yr amlygai olud ei ogoniant tuag at lestri trugaredd, a ragbaratôdd i ogoniant,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratôdd efe i ogoniant,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae'n barod i ddangos ei ysblander aruthrol, a'i rannu gyda'r rhai mae wedi dewis trugarhau wrthyn nhw, sef y rhai mae wedi eu paratoi ar gyfer hynny o'r dechrau cyntaf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ei amcan yn hyn fyddai dwyn i'r golau y cyfoeth o ogoniant oedd ganddo ar gyfer y llestri sy'n wrthrychau trugaredd, y rheini yr oedd ef wedi eu paratoi ymlaen llaw i ogoniant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y gwnelai yn adnabyddus olud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a rag‐barottôdd efe i ogoniant,