Romans 9:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Sef ny ni, yr ei a ’alwodd ef, nyd o’r Iuddeon yn vnic, amyn hefyt o’r Cenetloedd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
sef nyni, y rhai a alwodd Efe hefyd nid yn unig o’r Iwddewon, eithr o’r cenhedloedd hefyd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
sef nyni, a alwodd ef hefyd, nid yn unig o blith Iddewon, eithr o blith cenhedloedd yn ogystal?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o'r Iddewon yn unig, eithr hefyd o'r Cenhedloedd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac ie, ni ydy'r rheiny! — dim Iddewon yn unig, ond pobl o genhedloedd eraill hefyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A ni yw'r rhain, ni sydd wedi ein galw, nid yn unig o blith yr Iddewon, ond hefyd o blith y Cenhedloedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai a alwodd efe hefyd, sef nyni, nid yn unig o'r Iuddewon, ond hefyd o'r Cenhedloedd?