Romans 9:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
megis y dywait ef hefyt yn Osee, Mi, alwaf yn bopl ymy, yr ei nyd oedden yn bopul y‐my: ac yhi yn garedic, rhon nyd oedd yn garedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yn Hoshea hefyd y dywaid, “Galwaf yr hon nad yw Fy mhobl yn bobl i Mi; A’r hon nad yw anwyl, yn anwyl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Megis y dywed hefyd yn Hosea: Galwaf y rhai nad ydynt bobl i mi fy mhobl, a honno nad anwylwyd yn annwyl;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi; a'r hon nid yw annwyl, yn annwyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fel mae'n dweud yn llyfr Hosea: “Galwaf ‛nid fy mhobl‛ yn bobl i mi; a ‛heb ei charu‛ yn un a gerir”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y mae'n dweud yn llyfr Hosea hefyd: "Galwaf yn bobl i mi rai nad ydynt yn bobl i mi, a galwaf yn anwylyd un nad yw'n anwylyd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Megys hefyd y dywed efe yn Hosea: Mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi yn bobl i mi: A'r hon nid yw anwyl yn anwyl.