Romans 9:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y bydd yn y lle y dywetpwyt wrthynt, Nyd yd ych yn popul y mi, yno y gelwir hwy, Plant Duw byw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bydd yn y lle y dywedwyd wrthynt, Nid Fy mhobl ydych chwi, Yna y gelwir hwy Meibion y Duw byw.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, “nid fy mhobl ydych chwi,” yno y gelwir hwy yn feibion Duw byw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl i ydych chwi; yno y gelwir hwy yn feibion i'r Duw byw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a hefyd, “Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, ‘Dych chi ddim yn bobl i mi’ byddan nhw'n cael eu galw yn blant y Duw byw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, 'Nid fy mhobl ydych', yno, fe'u gelwir yn blant y Duw byw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bydd, yn y lle y dywedwyd wrthynt, Nid fy mhobl ydych chwi, Yno y gelwir hwy yn feibion y Duw byw.