Romans 9:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ef a wna ei gyfrif, ac ei crynoa gyd a chyfiawnder: can ys yr Arglwydd a wna gyfrif cryno yn y ddaiar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys Ei air, gan ei orphen a’i gwttogi ef, A wnaiff Iehofah ar y ddaear.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys cyflawna’r Arglwydd ei air ar y ddaear, yn llwyr a therfynol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a orffen ac a gwtoga'r gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byr waith a wna'r Arglwydd ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oherwydd yn fuan iawn bydd yr Arglwydd yn gorffen, ac yn gwneud beth ddwedodd ar y ddaear.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd llwyr a llym fydd dedfryd yr Arglwydd ar y ddaear."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr Arglwydd a gyflawna ei air ar y ddaear, gyda llŵyrder a chyflymdra.