Romans 9:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ megis y dyvot Esaias yn y blaen, Any bysei y Arglwydd y lluoedd adael i ni had, in gwneuthesit ni val Sodoma, ac a’n cyffelypesit i Gomorrha.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac fel y dywedodd Eshaiah yn y blaen. “Oni buasai i Iehofah Tsabaoth adael i ni had, Fel Sodom y buasem, ac i Gommorah y buasem gyffelyb.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac, fel y dywedodd Eseias o’r blaen: Pe ni adawsai Arglwydd y Sabaoth i ni had, fel Sodom y buasem, ac fel Gomorra y gwnaethid ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac megis y dywedodd Eseias yn y blaen, Oni buasai i Arglwydd y Sabaoth adael i ni had, megis Sodoma y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n union fel roedd Eseia wedi dweud yn gynharach: “Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael rhai ohonon ni'n fyw, bydden ni wedi ein dinistrio fel Sodom, ac wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r un yw neges gair blaenorol Eseia: "Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael i ni ddisgynyddion, byddem fel Sodom, ac yn debyg i Gomorra."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac megys y dywedodd Esaia o'r blaen, Oni buasai i Arglwydd Sabaoth adael i ni hâd, fel Sodom y buasem, a gwnaethid ni yn gyffelyb i Gomorrah.