Romans 9:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys mi a ry buchwn vot yn ’ohanedic beth y wrth Christ, dros vy‐brodur, sef vy‐cenetl erwydd y cnawt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys dymunwn fod fy hun yn anathema oddiwrth Grist tros fy mrodyr, fy nghyd-genedl yn ol y cnawd, y rhai ydynt Israeliaid;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mynnwn fy mod i fy hun yn anathema, wedi fy ngwahanu oddi wrth y Crist, er mwyn fy mrodyr, fy ngheraint yn ôl y cnawd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwn i'n barod i gael fy melltithio a'm gwahanu oddi wrth y Meseia petai hynny'n gwneud lles iddyn nhw! Fy mhobl i ydyn nhw — y genedl dw i'n perthyn iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gallwn ddymuno i mi fy hunan fod dan felltith, ac yn ysgymun oddi wrth Grist, pe bai hynny o les iddynt hwy, fy nghyd-Iddewon i, fy mhobl i o ran cig a gwaed.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys dymunwn fod fy hun yn anathema oddiwrth Grist er mwyn fy mrodyr, fy nghyd‐genedl yn ol y cnawd,