Romans 9:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth gan hyny a ddywedwn? Can ir Cenetloedd yr ei ny ddilynesont gyfiawnder, ymgahel a chyfiawnder, ’sef y cyfiawnder ysydd o’r ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Y cenhedloedd, y rhai ni ddilynent gyfiawnder, a ddaethant hyd i gyfiawnder, ond y cyfiawnder y sydd o ffydd:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa beth, gan hynny, a ddywedwn? Darfod i genhedloedd na ddilynent gyfiawnder gael gafael ar gyfiawnder, a hwnnw’n gyfiawnder trwy ffydd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Mae'n golygu fod pobl o genhedloedd eraill — pobl oedd ddim yn ceisio dilyn Duw — wedi cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw trwy gredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth, ynteu, a ddywedwn? Hyn, fod Cenhedloedd, nad oeddent 'u bryd ar gyfiawnder, wedi dod o hyd iddo, sef y cyfiawnder sydd trwy ffydd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Beth gan hynny a ddywedwn ni? Bod y Cenhedloedd nad oeddynt yn dylyn cyfiawnder, wedi dod o hyd i gyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd;