Romans 9:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Paam? Can na’s ceisyent wrth ffydd, any d me g is o weithredoedd y Ddeðyf: can ys trancwyddesont wrth vaen y trancwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Paham? O herwydd nad o ffydd, eithr fel o weithredoedd y dilynent; tarawsant wrth y maen-tarawo, fel yr ysgrifenwyd, “Wele, gosod yr wyf yn Tsion faen-tarawo a charreg tramgwydd; A’r hwn sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Paham? Oherwydd iddi ddilyn, nid drwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd. Tramgwyddasant wrth y maen tramgwydd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pam? Am eu bod nhw'n dibynnu ar beth roedden nhw eu hunain yn ei wneud yn lle credu. Maen nhw wedi baglu dros ‛y garreg sy'n baglu pobl‛,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am ba reswm? Am iddynt weithredu, nid trwy ffydd ond ar y dybiaeth mai cadw gofynion cyfraith oedd y ffordd. Syrthiasant ar y "maen tramgwydd"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Paham? O herwydd ni ddylynasant o ffydd ond megys o weithredoedd. Tramgwyddasant wrth y maen‐tramgwydd,