Romans 9:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr ei ynt yr Israelieit, i ba ’r ei y perthyn y mab‐wys iad, a’r gogoniant, a’r Dygymmodae, a’ dodiat y Ddeddyf, a’ gwasanaeth Duvv, a’r g addeweidion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eiddo y rhai yw’r mabwysiad a’r gogoniant, a’r cyfammodau a rhoddiad y Gyfraith,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y rhai sy’n Israeliaid: eiddynt hwy y mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a rhoddi’r ddeddf, a’r addoliad, a’r addewidion;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw'r mabwysiad, a'r gogoniant, a'r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a'r gwasanaeth, a'r addewidion;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pobl Israel sydd wedi cael eu mabwysiadu gan Dduw yn blant iddo'i hun. Nhw welodd ei ysblander. Ymrwymodd y byddai'n gofalu amdanyn nhw. Nhw gafodd y Gyfraith ganddo, a dysgu sut i'w addoli yn iawn. Nhw dderbyniodd yr addewidion i gyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Israeliaid ydynt; eu heiddo hwy yw'r mabwysiad, y gogoniant, y cyfamodau, y Gyfraith, yr addoliad a'r addewidion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai ydynt Israeliaid; eiddo y rhai yw y Mabwysiad, a'r Gogoniant, a'r Cyfammodau, a Rhoddiad y Ddeddf, a'r Gwasanaeth, a'r Addewidion;