Romans 9:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O ba’r ei yr hanoedd y tadae, ac o ba ’r ei erwydd y cnawd, yr hanoedd Christ, yr hwn ’sy yn Dduw arucha oll yn vendiged ic yn oes oesoedd, Amen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’r gwasanaeth a’r addewidion; eiddo y rhai yw ’r tadau, ac o’r rhai y mae Crist yn ol y cnawd, yr Hwn sydd uwchlaw pob peth, Duw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
eiddynt hwy y tadau, ac ohonynt hwy y Crist o ran y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eiddo y rhai yw'r tadau; ac o'r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Eu hanes nhw ydy hanes Abraham, Isaac, Jacob a'i feibion, a nhw ydy'r genedl roedd y Meseia yn perthyn iddi fel dyn. Fe sy'n rheoli popeth, yn Dduw i gael ei foli am byth! Amen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Iddynt hwy y mae'r hynafiaid yn perthyn, ac oddi wrthynt hwy, yn l ei linach naturiol, y daeth y Meseia. I'r Duw sy'n llywodraethu'r cwbl boed bendith am byth. Amen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
eiddo y rhai yw y Tadau, ac o'r rhai y mae Crist yn ol y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen.