Romans 9:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ys ef yw hyny, nyd yr ei ’sy yn blant y cnawt, ydynt plant Duw: eithyr plant yr addewit a gyfrifir yn had.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
hyny yw, nid plant y cnawd, y rhai hyny sy blant i Dduw, eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hynny yw, nid plant y cnawd sydd blant Duw, ond plant yr addewid a gyfrifir yn had.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hynny ydy, dydy pawb sy'n perthyn i deulu Abraham ddim yn blant Duw. Y rhai sy'n blant go iawn i Abraham ydy'r rhai sy'n blant o ganlyniad i addewid Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hynny yw, nid y plant o linach naturiol Abraham, nid y rheini sy'n blant i Dduw. Yn hytrach, plant yr addewid sy'n cael eu cyfrif yn ddisgynyddion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
hynny yw, nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw, eithr plant yr addewid a gyfrifir yn hâd.